O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr

(Ymddiried yn Nuw)
O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
  Anfon i lawr Dy gymmod:
Dedwydd yw'r hwn a roddo'i gred,
  A'i holl ymddiried ynod.

O! estyn eto, i barhau,
  Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom di a'th ddawn,
  I'r rhai sydd uniawn galon.

Gobeithiwn ynddo, ger ei fron
  Tywalltwn galon berffaith;
Ac ymddiriedwn tra fo'm byw,
  A d'wedwn "Duw yw'n gobaith."

           - - - - -

O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr!
  Rho profi 'nawr
      dy gymod:
Gwyn fyn y dyn a roddo'i gred,
  A'i holl ymddiried ynot.

O! estyn eto, i barhau,
  Dy drugareddau tirion;
Ni a'th adwaenom Di a'th ddawn,
  I'r rhai sydd uniawn galon.

Corona'n hoedfa ar hyn o bryd,
  A'th hyfryd bresenoldeb;
Rho brofi grym
    dy air a'th hêdd,
  A hyfryd
      wedd dy wyneb.
Edmwnd Prys 1544-1623

Tonau [MS 8787]:
Dyfroedd Siloah (John Williams 1740-1821)
Dymuniad (Robert H Williams 1805-76)
Eidduned (J R Jones 1765-1822)

gwelir:
  Dy babell di mor hyfryd yw
  Dy drugaredd fy Arglwydd Ion
  Dy fawr drugaredd f'Arglwydd Iôn
  Mor werthfawr yw'th drugaredd di
  O Arglwydd Dduw'r Hwn bïau'r gwaith
  O frasder da llawn yw dy dŷ
  Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw
  Yr unwedd ag y brefa'r hydd

(Trust in God)
O, stretch out again, to continue,
  Thy tender mercies;
We know thee and thy gift,
  To those up are of upright heart.

O extend again, to endure,
  Thy tender mercies!
We who know thee and thy gift,
  To those who are of an upright heart.

Let us hope in him, before him
  Let us pour out a perfect heart;
And let us trust while ever we live,
  And let us say, "God is our hope."

                  - - - - -

O Lord God of the great hosts
  Give an experience now
      of thy reconciliation!
Blessed is the man who puts his belief,
  And all his trust in thee.

O extend again, to endure,
  Thy tender mercies!
We know thee and thy gift,
  To those who are of an upright heart.

Crown our service at this time,
  With thy delightful presence;
Grant to experience the force
    of thy word and thy peace,
  And the delightful
      countenance of thy face.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~